Jane Hutt AC

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Bae Caerdydd

Caerdydd

CF99 1NA

15 Medi 2016

Annwyl Jane

Diolch am eich llythyr, dyddiedig 20 Gorffennaf 2016, sy’n nodi’ch pryderon ynghylch cyhoeddi data personol am ymgeiswyr ar bapurau pleidleisio. Roedd yn hynod drist clywed am farwolaeth drasig Jo Cox, a chredaf fod diogelwch ymgeiswyr mewn etholiadau yn hollbwysig. Mewn ymateb i’ch llythyr, rwyf wedi gofyn i swyddogion y Cynulliad ymchwilio i’r sefyllfa gyfreithiol o ran cyhoeddi data personol.


Ar gyfer etholiadau’r prif awdurdodau (hynny yw, cynghorau sir neu gynghorau bwrdeistref sirol) y rheolau perthnasol yw’r Local Elections (Principal Areas) (England and Wales) Rules 2006 (SI 2006/3304) (“Rheolau etholiadau’r prif ardaloedd”). Ar gyfer cynghorau plwyf a chymuned, y rheolau perthnasol yw’r Local Elections (Parishes and Communities) England and Wales Rules 2006 (SI 2006/3305) (“Rheoliadau etholiadau plwyf a chymuned”).

Mae’r cyngor rwyf wedi’i gael yn awgrymu bod yn rhaid i ymgeisydd roi cyfeiriad ei gartref yn llawn, a bod yn rhaid i’r swyddog canlyniadau gynnwys y cyfeiriad hwnnw yn llawn ar y datganiad o bersonau sydd wedi’u henwebu, fel ar y papur enwebu. Caiff y wybodaeth hon ei chynnwys ar y papur pleidleisio hefyd. O gofio hynny, ymddengys na fyddai’n bosibl peidio â chyhoeddi’r holl wybodaeth bersonol heb ddiwygio’r ddeddfwriaeth berthnasol. O dan y setliad presennol, deallaf na allai’r Ysgrifennydd Cabinet wneud y newidiadau perthnasol oherwydd yr Ysgrifennydd Gwladol sydd â’r pŵer i wneud hynny. Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd hyn yn newid unwaith y bydd Bil Cymru wedi dod i rym, os yw’r pŵer hwnnw’n cael ei drosglwyddo at yr Ysgrifennydd Cabinet drwy’r Gorchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau perthnasol.

Os caiff Bil Cymru ei weithredu fel y mae wedi’i ddrafftio ar hyn o bryd, bydd yn rhoi’r cymhwysedd deddfwriaethol i’r Cynulliad ynghylch etholiadau llywodraeth leol, a fyddai’n caniatáu i Fil gael ei gyflwyno i newid y gyfraith ynghylch cyhoeddi data personol ymgeiswyr mewn etholiadau.

Rwy’n cydnabod y pryderon rydych wedi’u mynegi yn eich llythyr ynghylch cyhoeddi data personol ymgeiswyr mewn etholiadau a’r risg o ran diogelwch sy’n gysylltiedig â hynny. Fodd bynnag, credaf mai’r Ysgrifennydd Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol sydd yn y sefyllfa orau i adolygu’r trefniadau a’r gweithdrefnau deddfwriaethol, o gofio mai’r Ysgrifennydd Cabinet sydd â’r cyfrifoldeb gweithredol dros drefniadau etholiadol llywodraeth leol.


Cofion cynnes

  

John Griffiths AC / AM

Cadeirydd / Chair

 

Copi at: Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol